Derek Brockway a Carwyn Jones yn cyfnewid swyddi

Derek a Carwyn
Image caption Mae nifer yn dweud bod na debygrwydd rhwng Carwyn Jones a Derek Brockway

Mi fydd un o gyflwynwyr tywydd BBC Cymru yn cael y cyfle i fod yn brif weinidog Cymru a hynny er mwyn codi arian ar gyfer diwrnod Plant Mewn Angen.

Mae pobl weithiau yn cymysgu'r darlledwr boblogaidd Derek Brockway gyda Carwyn Jones ac mae'r ddau wedi bod yn cyfnewid swyddi am gyfnod.

Mae'r prif weinidog wedi bod yn cyflwyno bwletin tywydd a'r cyflwynydd tywydd wedi cynnal cynhadledd i'r wasg.

Yr un 'mwyaf golygus'

Ond er bod Derek Brockway wedi mwynhau'r profiad mae'n dweud nad ydy o isio camu i'r byd gwleidyddol.

"Mae rhai pobl yn meddwl mod i yn edrych fel y prif weinidog, gan gynnwys fy mam. Ond os mai fi fyddai ei frawd e, fi fyddai'r un mwyaf golygus! Nes i fwynhau blasu pŵer ond er bod angen croen tew i fod yn gyflwynydd tywydd, dw i ddim yn siŵr os ydw i yn barod i redeg y wlad!"

Image caption Mi fuodd Carwyn Jones yn cyflwyno'r tywydd

Talach a theneuach

Dyw Carwyn Jones ddim yn teimlo bod 'na debygrwydd rhwng y ddau ohonyn nhw ond mi oedd o yn ddigon hapus i roi tro ar gyflwyno'r tywydd: "Mae pobl wedi dweud fy mod i a Derek yn edrych yn debyg, gyda'r gwrthbleidiau hyd yn oed yn dweud hyn yn y Senedd. Ond dw i ddim yn gweld y tebygrwydd fy hun.

"Dw i'n bendant yn dalach a theneuach. Am fod Plant Mewn Angen yn achos mor dda o'n i yn meddwl mai'r peth lleiaf allen ni wneud oedd gadael i Derek fod yn brif weinidog am gyfnod byr. Ond dw i ddim yn meddwl y dyle fe feddwl am newid gyrfa eto!"

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.