PRS yn cynyddu cyfradd tâl
- Cyhoeddwyd

Mae PRS (Performing Rights Society) wedi cadarnhau ei bod nhw wedi codi'r raddfa maen nhw'n dalu i gerddorion am bob munud o gerddoriaeth sy'n cael ei chwarae ar Radio Cymru.
Bydd grwpiau ac artistiaid sy'n aelodau bellach yn derbyn 98c y funud sydd bron i ddwbl y 52c roeddent yn ei dderbyn yn flaenorol.
Nid yw'r arian mae PRS yn dalu am gerddoriaeth Cymraeg wedi codi - y rheswm am y cynnydd yw bod cyfradd llawer is o'r cerddorion sy'n cael eu chwarae ar yr orsaf bellach yn aelodau o PRS.
Mae hyn yn golygu bod llai o funudau o gerddoriaeth sydd wedi ei drwyddedu i PRS yn cael ei chwarae, sydd yn ei dro yn golygu bod bob munud yn cael cyfradd uwch o'r gronfa.
Dywedodd llefarydd ar ran PRS: "Mae llai o aelodau PRS sy'n rhannu ein refeniw trwydded Radio Cymru sydd wedi arwain at gynnydd yn y raddfa ar gyfer pob munud.
"Gallwn gyhoeddi felly bod y gyfradd ar gyfer BBC Radio Cymru bellach yn 98c y funud."
Eos
Y flwyddyn ddiwethaf fe wnaeth cerddorion o Gymru sefydlu asiantaeth newydd er mwyn casglu arian drwyddedu yn dilyn ffrae gyda PRS.
Roedden nhw'n anhapus gyda'r taliadau oedd yn cael eu cynnig gan y gymdeithas drwyddedu.
Mae tribiwnlys wrthi'n ystyried beth yw'r ffi flynyddol dylai'r BBC dalu am yr hawl i chwarae'r casgliad o ganeuon sydd bellach o dan reolaeth Eos.
Mae Eos am i'r tribiwnlys llawn gynyddu'r taliad i £1.5 miliwn y flwyddyn, tra bod y BBC wedi dweud byddai taliad blynyddol o £100,000 yn bris teg ar gyfer yr hawl i ddarlledu gwaith y cerddorion.
Mae disgwyl penderfyniad cyn diwedd y flwyddyn.
Straeon perthnasol
- 27 Medi 2013
- 24 Medi 2013
- 17 Mai 2013