Cyllid Cymru: 'Addas i'w bwrpas?'

Money
Image caption Cafodd rhan gynta'r adolygiad ei gyhoeddi ym mis Mehefin

Fe gafodd ail ran adolygiad annibynnol i gyllido busnesau bach a chanolig (BBaCh) yng Nghymru ei gyhoeddi gan y gweinidog economi Edwina Hart brynhawn Mawrth.

Mae adroddiad yr adolygiad yn canolbwyntio ar ba mor hawdd yw hi i BBaCh gael benthyciadau.

Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan yr Athro Dylan Jones-Evans, arbenigwr busnes ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr a chyn ymgeisydd Ceidwadol i'r Cynulliad.

Cafodd rhan gyntaf yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Mehefin. Yn yr ail ran, mae'n canolbwyntio ar ffynonellau eraill o gyllid sydd ar gael i'r busnesau dan sylw ar wahân i fanciau'r stryd fawr.

'Addas i'w bwrpas?'

Mae'r adroddiad yn feirniadol iawn o Cyllid Cymru, sef banc buddsoddi Llywodraeth Cymru.

Dywed yr adroddiad: "Yn ôl y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r adolygiad mae Cyllid Cymru yn cynnig graddfeydd uwch o log ar fenthyciadau i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru nag sy'n ofynnol o dan ganllawiau'r Undeb Ewropeaidd ar gymorth y wladwriaeth.

"Mae'r dystiolaeth hefyd yn awgrymu nad yw Cyllid Cymru yn defnyddio'r ystod llawn o arfau ariannol sydd ar gael o dan reoliadau Ewrop.

"Mae'n aneglur a yw Cyllid Cymru yn gweithredu fel rheolwr cyllid masnachol i bob pwrpas.

"O ystyried hyn efallai bod gan y gweinidog farn os yw Cyllid Cymru yn addas i'w bwrpas, neu a oes angen i'r sefydliad gael ei lyncu gan Llywodraeth Cymru fel y gall ganolbwyntio ar ei rôl i ddatblygu economi Cymru."

'Cefnogaeth fratiog'

Dywed yr adroddiad bod benthyciadau gan fanciau'r stryd fawr i BBaCh yng Nghymru wedi disgyn 30% ers trydydd chwarter 2011. Mae bwlch cyllido o tua £500 miliwn y flwyddyn rhwng yr arian y mae BBaCh ei angen a'r hyn sydd wedi ei gynnig gan y banciau.

Mae'n dweud hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ffyrdd o estyn cymorth i fusnesau drwy fuddsoddi mewn cynllun lle mae busnesau yn benthyca i'w gilydd - P2P - fel ffynnhonell arall o gyllid.

Image caption Mae'r adolygiad yn awgrymu nad yw Cyllid Cymru yn defnyddio'r holl arfau ariannol sydd ar gael o dan reoliadau Ewrop

Aiff yr adroddiad ymlaen i ddweud: "Mae'r dystiolaeth i'r adolygiad yn awgrymu bod y gefnogaeth ariannol o'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn fratiog ac, yn bwysicach, dyw'r corff sydd â'r dasg o ddarparu cyllid i BBaCh ddim yn canolbwyntio ar ddatblygu economi Cymru.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull lle mae cyllid cyhoeddus i BBaCh yn fforddiadwy, yn canolbwyntio ar ddatblygu economaidd, yn cael ychwanegiad gan gefnogaeth busnes ac yn canolbwyntio ar anghenion y cwsmer busnes."

Pum egwyddor

Yn rhan o'r adolygiad, mae'r Athro Jones-Evans wedi argymell pum egwyddor yn sail i unrhyw newidiadau yn y dyfodol i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu cyllid ar gyfer BBaCh sef:

  • Dylai pob busnes hyfyw fedru cael cyllid am bris fforddiadwy;
  • Prif swyddogaeth cyllid sy'n cael ei gefnogi gan y llywodraeth ar gyfer BBaCh yw ysgogi datblygu economaidd;
  • Nid swyddogaeth y sector cyhoeddus yw cymryd lle'r sector preifat ond yn hytrach ymateb i fethiant y farchnad i ddarparu cyllid i BBaCh;
  • Mae'n hanfodol fod cymorth i fusnesau ac o ran sgiliau yn cael ei gynnig ochr yn ochr â chymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru yn hytrach na fel elfennau ar wahân;
  • Dylai cynlluniau i ateb y problemau cyllido ystyried gofynion cwsmeriaid.

Wrth gloi mae'r adroddiad yn argymell sefydlu Banc Datblygu Cymru a fydd yn crynhoi'r holl gynlluniau cefnogaeth i BBaCh sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, y cronfeydd sy'n cael eu rheoli gan Cyllid Cymru ac elfennau o Busnes Cymru ynghyd â chynlluniau gan lywodraeth y DU.

Cyfnod ymgynghori

Wrth gyflwyno'r adroddiad yn y Senedd brynhawn Mawrth, dywedodd Mrs Hart: "Wrth iddo gynnal yr adolygiad hwn mae'r athro wedi trafod yn helaeth â chyrff ac unigolion gan holi am farn pobl ar draws y sector bancio a sefydliadau ariannol eraill, cyfryngwyr, y byd academaidd a'r gymuned fusnes ehangach.

"Mae'r adolygiad wedi tynnu sylw at yr heriau pwysig sy'n bodoli i'r sector preifat a'r llywodraeth - heriau y bydd angen eu hystyried yn llawn ac yn drylwyr.

"Bydd angen ystyried ymhellach holl argymhellion yr athro a bydd cyfnod ymgynghori byr yn agor nawr at y diben hwnnw.

"Yn ystod y cyfnod hwn bydd yn ymgynghori â nifer o bartneriaid cymdeithasol megis yr undebau llafur a Commerce Cymru.

"Galwaf hefyd ar y gymuned fusnes, BBaCh, buddsoddwyr, sefydliadau ariannol, cyfryngwyr a chyrff sy'n aelodau i ddod ymlaen â'u syniadau er mwyn helpu i ysgogi datblygiad yn y maes pwysig hwn."

Ymateb

Mae Plaid Cymru wedi croesawu'r ail adroddiad, ond wedi dweud nad yw eu hargymhellion yn dweud popeth sydd ar fusnesau Cymreig eu hangen.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr economi, Alun Ffred Jones:

"Mae'n iawn i ni edrych ar sefydlu ffyrdd newydd o roi cyllid i fusnesau bach. Dylai'r Gweinidog ateb y cwestiynau difrifol ynghylch pam y methodd Cyllid Cymru a chyflwyno, a pham eu bod wedi bod yn gosod cyfraddau llog uwch na gofynion y Comisiwn Ewropeaidd.

"Mae cyfle yn awr i greu model newydd sy'n cyflawni ar gyfer busnesau Cymru. Mae Plaid Cymru wedi dadlau'n gyson dros i hyn fod mewn banc Cymreig, nid-am-elw, mewn dwylo cyhoeddus.

"Dylai'r banc hwyluso mynediad at gyllid i fusnesau bach, ar gost isel, a chynnig cefnogaeth, o ddatblygu entrepreneuriaid i'r modd y gallai busnesau ehangu eu masnach allforio. Dylai'r corff newydd fod yn ganolog i strategaeth y Llywodraeth o gefnogi twf yn y sector BBaCh."

Bydd y cyfnod ymgynghori ar yr adroddiad yn dechrau yn syth ac yn dod i ben ar Ragfyr 6.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.