Adam Jones: anaf yn golygu na fydd yn medru chwarae

Adam Jones Image copyright Getty Images
Image caption Roedd yn rhaid i Adam Jones adael y cae ddydd Sadwrn ar ôl anafu ei goes

Fydd Adam Jones ddim yn chwarae yng ngweddill cyfres yr hydref.

Mi anafodd prop Cymru ei goes yn ystod y gêm yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn a fydd o ddim yn chwarae yn erbyn Tonga, Ariannin nac Awstralia.

Nid fe yw'r unig chwaraewr i gael ei anafu yn y gêm gorfforol dros y penwythnos gan i Liam Williams a Scott Andrews hefyd gael anafiadau.

Daw'r newyddion ar ôl i'r canolwr Jonathan Davies ddweud na fydd o ar gael i chwarae dros ei wlad chwaith wedi iddo yntau adael y maes yn yr un gêm.

Cafodd Davies anaf i'w frest ac mi fydd yn rhaid iddo orffwys am sawl mis. Mae'n bosib na fydd o wedi gwella mewn pryd i chwarae ym mhencampwriaeth y chwe gwlad.

Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi gofyn i Samson Lee, Rhodri Jones, Hallam Amos a Tom Prydie i ymarfer gyda'r tîm yr wythnos hon.