Cofio Dydd y Cadoediad
- Cyhoeddwyd

Mae miloedd o bobl wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiadau i gofio Dydd y Cadoediad, sy'n nodi'r diwrnod ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben yn 1918.
Cafodd bron i 900,000 o aelodau'r lluoedd arfog eu lladd yn ystod y rhyfel a oedd i fod i ddiweddu pob rhyfel arall.
Yn y Senedd yng Nghaerdydd bu Llywydd y Cynulliad Rosemary Butler wedi bod yn arwain dau funud o dawelwch er cof am y milwyr fu farw.
Mae seremonïau hefyd wedi eu cynnal yn Abertawe a Wrecsam, gyda seiren cyrch awyr yn canu i nodi dau funud o dawelwch am 11.00yb.
Yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant bu'r Ysgrifennydd Gwladol David Jones yn bresennol i weld creu darn arian £5 arbennig.
Bu hefyd yn cymryd rhan mewn seremoni ar safle'r Bathdy, sydd wedi bod yn creu medalau i gyn filwyr ers iddyn nhw ddechrau cael eu rhoi i unigolion yn 1815.
Symbol
"Mae'r pabi coch wedi dod yn symbol cyfarwydd dros Ddydd y Cofio," meddai Mr Jones cyn y seremoni.
"Mae arian Dydd y Cofio hefyd yn deyrnged i'r rheiny sydd wedi colli eu bywydau wrth wasanaethu'r wlad, ac ein diolchgarwch i'r dynion a'r merched sy'n parhau i amddiffyn ein ffordd o fyw yma a thramor."
Yn Abertawe mae gwasanaeth wedi cael ei gynnal wrth gofeb i longwyr a physgotwyr yn y ddinas.
Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gosod torchau wrth gofeb yn Neuadd y Ddinas er cof am gyn aelodau staff gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd.
Mi fu dau funud o dawelwch ar draws pob adeilad cyngor hefyd.
Cafodd nifer o seremoniau eu cynnal ddydd Sul, gan gynnwys yng Nghaerdydd, Casnewydd a Wrecsam.
Roedd Rosemary Butler yn un o'r rhai aeth i'r seremoni yng Ngerddi Alexandra yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Dywedodd: "Gallwn ni byth anghofio'r rheiny sydd wedi gwneud yr aberth fwyaf dros eu gwlad.
"Dylen hefyd gofio'r rheiny sy'n peryglu eu bywydau heddiw mewn ardaloedd fel Afghanistan."
Straeon perthnasol
- 10 Tachwedd 2013