Rygbi 13: Cymru allan o Gwpan y Byd

cais USA
Image caption Sgoriodd yr Unol Daleithiau bum cais yn erbyn tri Cymru

Cymru 16-24 Unol Daleithiau

Mae Cymru allan o Gwpan Rygbi 13 y Byd wedi iddyn nhw golli eu hail gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau ar y Cae Ras brynhawn Sul.

Roedd yr hyfforddwr Iestyn Harris wedi gwneud un newid i'r tîm a gollodd eu gêm agoriadol yn erbyn yr Eidal wythnos yn ôl gan ddod â Christiaan Roets i mewn yn lle Rhodri Lloyd, a Roets roddodd Gymru ar y blaen gyda chais wedi 16 munud.

Ond o fewn tri munud roedd hi'n gyfartal wrth i Clint Newton groesi i'r ymwelwyr. Roedd y ddau drosiad yn aflwyddiannus gan adael y sgôr yn gyfartal ar 4-4.

Roedd amddiffyn Cymru dan bwysau yn gyson yn yr hanner cyntaf, ac ychydig iawn o gyfleoedd ddaeth i'r Cymry sgorio.

Ond cyn yr egwyl aeth yr Americanwyr drwy amddiffyn Cymru eto. Matt Peterson groesodd yn y gornel i roi'r ymwelwyr ar y blaen o 8-4.

Cyfnod gwael

Doedd dim byd llai na buddugoliaeth yn ddigon da i Gymru gan iddyn nhw golli eu gêm gyntaf, ac roedd angen mwy o dân yn y perfformiad yn yr ail hanner.

Ond er i Gymru cael cyfnod o bwyso yn agos at linell gais yr ymwelwyr, yr Unol Daleithiau sgoriodd y cais nesaf hefyd. Jason Paulo sgoriodd i agor bwlch o 8 pwynt.

Roedd yna gais dadleuol arall i ddilyn. Wedi i'r pedwerydd dyfarnwr dreulio peth amser yn gwylio'r fideo, y farn oedd bod Tuisegasega Samoa wedi tirio'r bêl.

Am unwaith roedd y trosiad yn llwyddiannus ac roedd yr ymwelwyr 18-4 ar y blaen a Chymru ar eu ffordd allan o'r gystadleuaeth.

Cadarnhawyd hynny pan groesodd Newton am ei ail gais, a gyda throsiad arall roedd y sgôr yn 24-4.

Ond fe gafwyd diweddglo dramatig ar y Cae Ras. Gyda phum munud yn weddill fe redodd Roets o'r llinell hanner i groesi am gais - ac fe ddaeth trosiad gan Lloyd White i ddilyn.

Gyda dau funud yn weddill daeth cais arall i Gymru. Anthony Walker sgoriodd, a gyda throsiad arall gan White roedd Cymru yn ôl o fewn 8 pwynt.

Roedd y dorf ar eu traed wrth i Ben Flower ddod at agos at groesi am un arall, ond fe gafodd ei daclo llathen yn brin o'r llinell, a'r Americanwyr oedd yn dathlu'n fuan wedyn.

Fe fydd gan Gymru un gêm yn weddill i adfer rhywfaint o hunan barch wrth iddyn nhw groesawu Ynysoedd Cook i'r Gnoll yng Nghastell-nedd yr wythnos nesaf.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.