Cwpwl priod yn gorfod byw ar wahan

Dave Hook a'i wraig Dee Taft-Hook
Image caption Mae Dave a Dee Hook yn gorfod byw ar wahan

Mae rheolau fisa newydd y DU yn golygu nad yw dyn o Abertawe yn cael dod â'i wraig i fyw gydag ef yng Nghymru.

Priododd David Hook a'i wraig Dee Taft-Hook chwe blynedd yn ôl. Mae Mrs Taft-Hook yn hanu o Ganada, ond mae'r ddau yn dal i fyw mewn gwledydd gwahanol.

Tan ychydig ddyddiau yn ôl doedd y ddau ddim wedi gweld ei gilydd yn y cnawd ers bron flwyddyn.

Am nad yw'n byw yn y DU fe wnaeth Dee Taft-Hook gais am fisa i fyw ym Mhrydain fel priod Dave Hook.

Ond am nad yw Mr Hook yn ennill cyflog digon uchel fe gafodd y cais ei wrthod. Y lleiafswm cyflog angenrheidiol yw £18,600 y flwyddyn.

Ym mis Gorffennaf dywedodd yr Uchel Lys nad oedd y swm yna yn anghyfreithlon, ond ei fod yn llethol gan annog y Swyddfa Gartref i ostwng y trothwy i tua £13,000.

Mae llywodraeth y DU yn apelio yn erbyn hynny, ac yn y cyfamser wedi rhewi bob cais am fisa teuluol.

Hanner y boblogaeth

Dywedodd Mr Hook: "Roeddwn i'n gweithio fel labrwr yn ne Cymru ar yr isafswm cyflog. Bellach rwy'n gweithio yn y diwydiant diogelwch, ac unwaith eto mae'r rhan fwyaf o'r gwaith ar yr isafswm cyflog.

"Y cyflog mwyaf a gefais erioed oedd tua £14,000, ac roedd hynny trwy weithio 70-75 awr yr wythnos."

Mae ymchwiliad gan BBC Cymru yn dangos y byddai'r rheolau'n effeithio ar hanner poblogaeth Cymru.

Nid yw'r rheolau'n berthnasol i bobl sy'n byw yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Mrs Taft-Hook hefyd wedi gwneud cais am fisa ymwelydd er mwyn cael gweld ei gwr, ond cafodd hwnnw hefyd ei wrthod.

Dywedodd Asiantaeth Ffiniau'r DU wrth y BBC: "Yng ngoleuni'r cais yma nid oedd ein swyddogion yn fodlon y byddai hi yn gadael y DU ar ddiwedd ymweliad byr fel y mae'n honni."

'Ddim yn faich'

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref wrth BBC Cymru: "Mae llywodraeth y DU yn croesawu'r rhai sydd am wneud bywyd newydd gyda'u teuluoedd yn y DU gan weithio'n galed a gwneud cyfraniad.

"Mae ein rheolau teuluol wedi'u cynllunio i sicrhau bod y rhai sy'n dod i'r DU i ymuno gyda'u teuluoedd ddim yn fwrn ar y trethdalwr."

Roedd Mrs Taft-Hook yn gwrthod hynny'n llwyr gan ddweud: "Fel rhywun sy'n dod yma o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd - o dan y drefn newydd neu'r hen un - does gennych chi ddim hawl i hawlio budd-daliadau o gwbl am y pum mlynedd cyntaf.

"Fydda i ddim felly yn faich ar y trethdalwr."

Bydd mwy o fanylion ar y stori ar raglen Eye On Wales ar BBC Radio Wales am 1:30pm ddydd Sul, Hydref 27.