Casnewydd 3-0 Caerefrog
- Cyhoeddwyd

Funud cyn y diwedd sgoriodd Danny Crow y drydedd gôl
Roedd tân ym moliau chwaraewyr Casnewydd wrth drechu Caerefrog o 3-0.
Chris Zebroski daniodd yn gynta' wedi i ymdrech Conor Washington gael ei blocio.
Ar waetha' pwysau'r gwrthwynebwyr dyblodd Lee Minshull y fantais ychydig cyn yr egwyl.
Funud cyn y diwedd sgoriodd Danny Crow y drydedd gôl wedi cic rydd Robbie Willmott.