Carchar am ddwyn 900 o fagiau llaw
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Casnewydd mae dynes 48 oed wnaeth ddwyn dros 900 o fagiau llaw drud dros gyfnod o dair blynedd wedi ei charcharu am 18 mis.
Roedd Jayne Rand o Swindon yn Wiltshire wedi dwyn eitemau gwerth hyd at £135,000 o siopau ar draws y DU.
Cafodd ei dal yn dwyn o siop House of Fraser mewn canolfan siopa yng Nghwmbrân.
Roedd Ms Rand wedi cyfaddef dwyn 905 o fagiau a phedwar pwrs o siopau yn cynnwys House of Fraser rhwng Rhagfyr 2009 a Rhagfyr 2012.
Elw sylweddol
Clywodd y llys ei bod hi wedi dwyn bagiau llaw Mulberry, Prada a Gucci, ac yna wedi gwneud elw o £88,000 drwy werthu rhai ar y we.
Dywedodd y barnwr, Rhys Rowlands ei bod hi wedi "troi dwyn yn fusnes".
"Dydw i erioed wedi gweld achos tebyg o'r blaen. Roeddech chi wedi teithio yn bell i ddwyn o siopau ar draws y wlad a thargedu bagiau drud iawn," meddai.
".. rhaid i chi dderbyn y canlyniadau."
'Difaru'
Clywodd y llys fod Rand, sy'n fam i ddau o blant, yn cerdded i mewn i siop heb fag cyn tynnu'r label diogelwch oddi ar fag a cherdded allan o'r siop.
Dywedodd Andrew Taylor ar ran yr amddiffyn: "Mae hi'n difaru'n fawr yr hyn y mae hi wedi ei wneud."
Dywedodd Rhodri Parry o Heddlu Gwent: "Mae troseddau yn erbyn siopau mawr yn effeithio ar gymunedau cyfan gan eu bod yn golygu bod nwyddau'n ddrutach i bawb arall.
"Rydym yn falch bod yr unigolyn gyflawnodd y troseddau hyn ei dedfrydu."
Dywedodd llefarydd ar ran House of Fraser: "Rydym yn llongyfarch y tîim yng Ngwmbrân am eu bod wedi adnabod ymddygiad amheus a gweithredu'n sydyn."