Achub dynes o dân

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Arall
disgrifiad o’r llunRoedd fflat y ddynes yn llawn mwg yn ôl adroddiadau

Mae dynes mewn oed wedi cael ei hachub yn dilyn tân mewn fflat ym Mae Colwyn.

Cafodd y gwasanaethau eu galw i'r digwyddiad yn Ffordd Conwy am 4yb ddydd Iau ac roedd rhaid i nifer o fflatiau eraill gael eu gwagio hefyd.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gallai'r tân fod wedi ei achosi gan ficrodon.

Cafodd y ddynes ei thrin am anadlu mwg, yn ôl gwasanaeth ambiwlans.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol