Ysbyty: Cynllun gwella £120m
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cymeradwyo cynllun adnewyddu ar gyfer Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cynllun gwerth £119.8m yn gwella gasanaethau i gleifion ac amodau gwaith staff.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn parhau i weithio ar gynlluniau manwl ar gyfer lle yn union y bydd yr arian yn cael ei wario.
Dywedodd Mr Drakeford fod y buddsoddiad yn dangos ymrwymiad y llywodraeth i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Yn ôl y llywodraeth, roedd angen buddsoddiad i greu gwasanaethau modern.
Bydd y bwrdd iechyd yn datblygu cynllun llawn am y gwelliannau i theatrau, adrannau radioleg a phatholeg, yr adran gofal dwys a nifer o wasanaethau ategol.
'Ymrwymiad'
Bydd gwella'r lloriau gwaelod a cyntaf yn yr ysbyty yn golygu cyfleusterau gwell i gleifion a staff.
Mae yna hefyd gynlluniau i wella parcio ar y safle ac arbed arian drwy fod yn fwy effeithlon.
Dywedodd y gweinidog: "Rydw i'n falch cael cymeradwyo'r cynlluniau ar gyfer rhan olaf adnewyddu Ysbyty'r Tywysog Charles fydd yn gwella'r cyfleusterau ar gael i gleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
"Mae'r buddsoddiad yn dangos ein hymrwymiad er gwaethaf yr hinsawdd economaidd anodd."
Wrth gyhoeddi'r gyllideb ddrafft yr wythnos diwethaf, cafodd £570m ei glustnodi ar gyfer iechyd dros y tair blynedd nesaf.
Straeon perthnasol
- 8 Hydref 2013