Ymchwilio i farwolaeth dyn 18 oed yn Ninbych
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i gorff dyn 18 oed lleol gael ei ddarganfod mewn maes parcio aml-lawr yn Ninbych.
Roedd hyn am 10.40am fore Gwener a chafodd yr ardal ei chau.
Dywedodd yr heddlu nad oedd modd esbonio'r farwolaeth ar hyn o bryd.
"Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal a byddwn yn gwylio ffilm teledu cylch cyfyng," meddai llefarydd.