Wrecsam 1-0 Southport
- Cyhoeddwyd

Wrecsam 1-0 Southport
Daeth Wrecsam â'u rhediad anffodus o bedair gêm heb fuddugoliaeth i ben trwy guro Southport ar y Cae Ras nos Fawrth.
Y tîm cartref gafodd mwyafrif y meddiant ac ergydion at y gôl, ond er hynny roedden nhw'n ffodus i gyrraedd yr egwyl yn gyfartal wrth i Brice Irie-Bi daro'r postyn gydag ergyd eiliadau cyn hanner amser.
Yr un oedd y stori yn yr ail hanner, ond yna wedi 75 munud fe sgoriodd Joe Anyinsah i roi Wrecsam ar y blaen.
Daeth y gôl ar ddiwedd cyfnod o bwyso a welodd Dean Keates a Jay Harris yn methu cyfleoedd da i Wrecsam.
Yn syth wedi'r gôl daeth Theo Bailey-Jones 'r maes fel eilydd yn lle Brett Ormerod, ac o fewn munudau roedd o wedi gorfodi arbediad da gan Hurst yn y gôl i Southport gydag ergyd o'r tu allan i'r cwrt cosbi.
Yn yr amser ychwanegwyd am anafiadau fe ddaeth un cyfle i'r ymwelwyr pan ildiodd David Artell gic rydd y tu allan i'r cwrt, ond aeth ergyd Jamie Milligan heibio'r postyn ac fe ddaliodd Wrecsam eu gafael ar y triphwynt.
Er gwaetha'r fuddugoliaeth mae Wrecsam yn dal yn 19eg yn y tabl gyda 15 pwynt o'u 14 gêm.
Ond fe fydd y pwyntiau yn tynnu rhywfaint o bwysau oddi ar ysgwyddau'r rheolwr Andy Morrell am y tro.