Salisbury 2 - 1 Wrecsam

Roedd hi'n ddiwrnod arall i'w anghofio i Wrecsam yng Nghynghrair Skrill wrth iddynt golli oddi gartref yn erbyn Salisbury.

Gallai pethau fod wedi bod mor wahanol, gyda'r tîm o Gymru ar y blaen ar ôl 45 munud diolch i gol Joe Anyinsah.

Ond dechreuodd pethau ddadfeilio rhyw ddeng munud o'r chwiban olaf - Fitchit yn rhwydo i'w gwneud hi'n gyfartal wedi 79 munud

Yna torrodd McDonald galonnau'r cefnogwyr oddi cartref gyda fflic bach glyfar gyda chefn ei droed yn gweld y bêl yn gorffen yn y rhwyd.

Mae Wrecsam yn gorfedd yn 20fed yn y tabl - un safle uwchben safleodd y cwymp.