Addysg cyfrwng Gymraeg - dim digon?
Mae polisi addysg Gymraeg blynyddoedd cynnar y llywodraeth wedi cael ei feirniadu.
Dywedodd pennaeth Mudiad Ysgolion Meithrin nad yw arweiniad y llywodraeth ddigon cadarn yn y maes.
Mae hyn yn dilyn honiadau gan Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) nad oes digon o ddarpariaeth addysg cyfrwng Gymraeg ar gael i blant mewn ardaloedd difreintiedig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o'i rhaglen addysg i blant ifanc.
Garden City
Yr wythnos hon fe agorwyd ysgol feithrin yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Sir y Fflint. Prosiect ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Mudiad Meithrin yw Cylch Meithrin Garden City.
Hon yw'r ddarpariaeth gofal plant Cymraeg gyntaf i gael ei hagor yn yr ardal.
Ond mae RhAG yn honni bod eu hymchwil yn dangos bod bwlch rhwng addysg Gymraeg sydd ar gael yn ystod y blynyddoedd cynnar a'r galw wedyn wrth i blant dyfu'n hyn.
Barn pennaeth y Mudiad Meithrin Hywel Jones yw mai diffyg arweiniad yw un o'r rhesymau dros hyn.
Dywedodd:"Dydy'r ffigyrau ar hyn o bryd ddim ar gael am faint o blant sy'n gwneud Dechrau'n Deg yn ddwyieithog sydd yn mynd ymlaen i addysg Gymraeg ond 'dw i'n tybio fod o'n isel iawn iawn iawn, oherwydd nad ydy'r arweiniad o dŷ'r llywodraeth ddim ddigon cadarn.
"Maen nhw'n deud er enghraifft eich bod rhaid i chi ateb y galw a 'dan ni'n gwrthwynebu hynny oherwydd sefydlon ni hon yn Garden City heddiw a 'dw i'n amau bod unrhyw un o'r rhieni yma wedi sefyll i fyny a deud 'dwi eisiau darpariaeth Gymraeg' - ond mae'r lle ma'n llawn heddiw."
Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn derbyn bod y feirniadaeth yn gywir.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan fod y Gymraeg yn "ran annatod o'r rhaglen Dechrau'n Deg" a bod cynghorau wedi diwallu'r galw am addysg Gymraeg yn llawn y llynedd.