Nigel Evans: Pennu dyddiad achos
- Cyhoeddwyd

Mae dyddiad wedi ei bennu ar gyfer achos Nigel Evans, yr Aelod Seneddol sy'n wreiddiol o Abertawe.
Ymddangosodd Mr Evans o flaen Llys y Goron Preston heddiw lle datganwyd y bydd yr achos yn dechrau ar 10 Mawrth 2014.
Mae Mr Evans yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus, pump o ymosodiadau rhyw ac un o dreisio.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen y llys yn Preston eto ar 24 Ionawr.
Roedd Mr Evans, sy'n 55, yn ddirprwy lefarydd yn Nhŷ'r Cyffredin cyn iddo gael ei gyhuddo o wyth trosedd rywiol.
Fe ymddiswyddodd o'r swydd honno wedi iddo gael ei gyhuddo - mae'n parhau i gynrychioli ei etholaeth, Ribble Valley, ond bellach fel aelod annibynnol.
Mae'r ddau gyhuddiad o ymosod yn anweddus yn dyddio nôl i gyfnod rhwng Ionawr 1 2002 ac Ionawr 1 2004; y pum cyhuddiad o ymosod yn rhywiol rhwng Ionawr 1 2009 ac Ebrill 1 2012 ac mae'r cyhuddiad o drais yn ymwneud a chyfnod rhwng Mawrth 29 ac Ebrill 1 y flwyddyn hon.
Mr Evans sydd wedi bod yn cynrychioli Ribble Valley yn San Steffan ers 1992.
Straeon perthnasol
- 11 Medi 2013