20 yn protestio wrth i furlun gael ei ddymchwel yng Nghasnewydd

Murlun y Siartwyr Image copyright opiumfire.com
Image caption Dechreuodd y dymchwel ddydd Iau

Mae tua 20 wedi protestio wrth i weithwyr chwalu murlun y Siartwyr yng Nghasnewydd.

Llwyddodd protestwyr i dorri drwy'r rhwystrau o amgylch y safle ac maen nhw wedi ceisio stopio Jac Codi Baw.

Roedd plismyn hefyd yn bresennol ar safle Sgwâr John Frost.

Roedd ymgyrchwyr wedi trefnu gorymdaith yn erbyn chwalu'r murlun ar gyfer dydd Sadwrn.

Mae'r mosäig 115 troedfedd (35 metr) o hyd yn darlunio gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd yn 1839.

Image copyright AFP
Image caption Roedd protestwyr ar y safle yng Nghasnewydd

Canolfan siopa

Bydd canolfan siopa ar gost o £100m yn cael ei hadeiladu ar y safle.

Roedd 2,500 o enwau wedi eu casglu ar ddeiseb yn erbyn y dymchwel.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r murlun mewn safle bregus, yn sownd wrth wal anniogel maes parcio aml-lawr.

"Rhaid i ni gymryd camau ar frys oherwydd ystyriaethau diogelwch."

Dywedodd fod y cyngor yn ymroddedig i gomisiynu "cynllun arall" fyddai'n coffáu mudiad y Siartwyr ac y bydden nhw'n ceisio barn y cyhoedd maes o law.

Roedd cais wedi ei wneud i Cadw - y corff sy'n gyfrifol am ddiogelu henebion - i roi statws restredig i'r murlun ond cafodd y cais ei wrthod.

£600,000

Cynghorodd Cadw'r sir i gysylltu gyda chwmni peirianyddol er mwyn ceisio adleoli'r murlun.

Byddai hynny wedi costio £600,000, yn ôl y cyngor.

Cafodd y murlun ei ddylunio gan yr artist Kenneth Budd yn 1978.

Roedd y Siartwyr yn fudiad radicalaidd oedd am fwy o hawliau i weithwyr, gan gynnwys yr hawl i bleidleisio.

Straeon perthnasol