Dedfryd oes am ymosod ar Bridger

Juvinal Batican Ferreira Image copyright Other
Image caption Roedd Juvinal Ferreira eisoes wedi cael dedfryd oes yn y carchar am lofruddiaeth

Mae dyn a ymosododd ar lofrudd April Jones, Mark Bridger, yng Ngharchar Wakefield wedi cael ail ddedfryd o garchar am oes.

Roedd Juvinal Ferreira, 24 oed, eisoes wedi cael dedfryd oes am lofruddio menyw yn 2008.

Clywodd Llys y Goron Leeds ddydd Mercher fod Ferreira wedi llunio arf gan ddefnyddio rasal ac wedi torri Bridger o'i dalcen i'w ên a thorri gwythïen.

Roedd Ferreira, a aned yn Guinea a'i fagu yn Gambia, wedi pledio'n euog i anafu yn fwriadol.

Fe gafodd bum mlynedd eu hychwanegu at y cyfnod lleiafswm dan glo sy'n golygu na fydd yn gymwys i gael ei ryddhau tan 2036.

Clywodd y llys hefyd ei fod wedi ymosod ar Bridger er mwyn ceisio'i orfodi i ddatgelu lle yr oedd corff April Joens wedi ei guddio.

Straeon perthnasol