Prifysgol yn newid enw
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Fetropolitan Abertawe wedi newid ei henw i i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe.
Daw'r newid hwn yn sgil uno diweddar Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Mae safleoedd y Brifysgol ar draws y ddinas yn cael eu hailfrandio gyda'r logo newydd wrth i'r flwyddyn academaidd newydd ddechrau.
Dywedodd yr Athro Ian Wells, Dirprwy Is-Ganghellor: "Bu i ni ail-frandio ychydig flynyddoedd yn ôl pan ddaeth Athrofa Addysg Uwch Abertawe yn Brifysgol Fetropolitan Abertawe ac roeddem wrth ein bodd gyda pha mor barod oedd pobl Abertawe i dderbyn yr enw a'r statws newydd. Rydym yn hyderus y bydd yr enw newydd yn cael ei dderbyn yn yr un ffordd gan fod hwn yn amser cyffroes i addysg uwch yn y ddinas."
Ym mis Awst 2013, unodd Coleg Sir Gâr â grŵp PCYDDS ac yn 2014 bydd Coleg Ceredigion hefyd yn ymuno â'r grŵp, gan ddarparu campws Prifysgol ar draws siroedd Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Ffurfiwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant trwy uno Prifysgol Cymru Llanbed a Phrifysgol Coleg Y Drindod Caerfyrddin yn 2010.
Straeon perthnasol
- 12 Hydref 2012
- 11 Hydref 2012
- 16 Ebrill 2009
- 21 Hydref 2011
- 17 Rhagfyr 2010