Wrecsam 1-1 Caergrawnt

Joslain Mayebi Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Wnaeth Joslain Mayebi ddim llwyddo i glirio'r bêl gan rhoi cyfle i Gaergrawnt i sgorio

Fe fethodd Wrecsam a thorri record Caergrawnt, sydd ddim wedi colli gêm eto y tymor yma a bu'n rhaid iddynt setlo am sgôr cyfartal.

Mi lwyddodd y Dreigiau i sgorio pwynt pwysig gyda'r gôl yn dod gan Leon Clowes ond mi gostiodd camgymeriad gan gôl-geidwad Wrecsam, Joslain Mayebi yn ddrud iddynt.

Wnaeth o ddim llwyddo i glirio'r bêl gan roi cyfle wedyn i Kwesi Appiah daro nôl wedi 17 munud a sgorio ar gyfer ei dîm, Caergrawnt.