Caerdydd 0 - 1 Tottenham

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun, Roedd gôl hwyr gan Paulinho yn ergyd i Gaerdydd ddydd Sul

Roedd gol Paulinho mewn amser ychwanegol yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Tottenham yn erbyn Caerdydd ddydd Sul.

Mewn gem dyn, roedd rhaid i gôl geidwad yr Adar Gleision, David Marshall fod ar ei orau i gadw Tottenham allan.

Ond llwyddodd Paulinho i sgorio gydag ond munudau yn weddill, y gŵr o Frasil yn rhwydo o bêl Erik Lamela.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Spurs yn symud i'r ail safle yn yr Uwch Gynghrair, tra bod Caerdydd yn parhau yn yr hanner isaf.

Straeon perthnasol