Bala 0 - 1 Rhyl

Bala 0 - 1 Rhyl

Mae Rhyl wedi curo am y tro cyntaf mewn pum gêm yn erbyn y Bala.

Mark Cadwallader sgoriodd unig gôl y gem, ei beniad pwerus wedi bron i chwarter awr yn rhoi ei dîm ar y blaen - ac yno yr arhoson nhw.

Daeth cyfle i Dave Morley cyn ddiwedd yr hanner cyntaf ond ni lwyddodd i sicrhau ei gôl gyntaf i'w glwb newydd.

Hon oedd y pumed gem yn olynol i'r Bala ei cholli - bydden yn gobeithio am berfformiad gwell yn erbyn Aberystwyth yng Nghoedlan y Parc ddydd Sadwrn nesaf.