Ewro 2020 i Gymru?

Stadiwm y Mileniwm
Image caption Byddai gemau Ewro 2020 yn cael eu chwarae yn Stadiwm y Mileniwm os bydd Caerdydd yn cael ei ddewis

Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi gwneud cais i gynnal rhan o gystadleuaeth Ewro 2020.

Dywedodd y gymdeithas bel droed Ewropeaidd, Uefa, y byddai'r gystadleuaeth yn cael ei rannu rhwng 13 dinas dros Ewrop yn 2020.

Mae 32 o aelodau Uefa wedi dangos diddordeb mewn cynnal gemau, gan gynnwys Lloegr, Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon.

Y brif ddinas

Mae Cymru wedi dewis Caerdydd i gynnal y gemau, os byddai'r wlad yn cael ei dewis, tra bod Llundain, Glasgow a Dulyn hefyd wedi eu henwebu.

Bydd Uefa yn penderfynu ar y 13 dinas ym mis Medi 2014.

Fel arfer mae'r gystadleuaeth, sy'n digwydd bob pedair blynedd, yn cael ei chynnal mewn un neu ddwy wlad.

Posibilrwydd cais

Ond penderfynodd Uefa y byddai'r gystadleuaeth yn 2020 yn cael ei gynnal dros Ewrop, i nodi 60 mlynedd ers sefydlu cymdeithas Uefa.

Bydd cystadleuaeth 2016 yn cael ei gynnal yn Ffrainc, ond gall 2020 weld un o brif gystadlaethau pêl droed y byd yn dod i Gymru.

Dywedodd Cymdeithas Bêl Droed Cymru: "Mae'r Gymdeithas wedi nodi ei ddiddordeb a bydd yn gwerthuso gyda'n partneriaid y posibilrwydd o wneud cais swyddogol pan mae'r manylion llawn yn cael eu rhyddhau gan Uefa."

Roedd pryder na fyddai Caerdydd yn gymwys oherwydd maint ei faes awyr, ond daeth cefnogaeth gan Faes Awyr Bryste.

Bydd dinasoedd sy'n cael eu dewis yn cynnal tair gêm grŵp ac un gêm o rowndiau'r 16 neu 8 olaf.

Bydd un ddinas yn cael ei ddewis i gynnal y rowndiau cynderfynol a'r rownd derfynol.

Ymysg y 32 dinas sydd wedi ceisio mae Rhufain, Zagreb a Munich.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.