Priodas ffug: dyn wedi ei arestio

Wedding rings Image copyright PA
Image caption Fe aeth yr heddlu i'r swyddfa gofrestru funudau yn unig cyn i'r gwasanaeth ddechrau

Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o gymryd rhan mewn priodas ffug.

Cafodd y gŵr o Ghana ei arestio toc wedi 12 brynhawn Mercher yn y swyddfa gofrestru yng Nghaerfyrddin.

Roedd yr heddlu wedi cael gwybodaeth o flaen llaw.

Mae'r dyn 31 oed wedi bod yn byw yn Llundain a'r awdurdodau'n dweud ei fod wedi dod i Brydain yn anghyfreithlon.

Ar ôl bod yn y ddalfa bydd yn gorfod gadael Prydain.

Dau ddyn arall

Dywedodd y Swyddfa Gartref mai'r bwriad oedd ei fod yn priodi menyw o Brydain oedd yn 25 oed.

Cafodd hi ei holi cyn cael ei rhyddhau.

Mae dau ddyn 27 a 28 oed o Ghana oedd yn yn y briodas wedi eu harestio ar amheuaeth o fod ym Mhrydain am gyfnod hirach nac y mae eu fisa'n caniatáu.

Disgwylir iddyn nhw hefyd adael Prydain.