Marwolaeth babi: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Bu farw Alfie Sullock bedwar diwrnod wedi iddo fynd i'r ysbyty
Mae dyn 32 oed o ardal Nelson yng nghymoedd y de wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth babi chwe wythnos oed.
Dywed yr heddlu eu bod yn parhau i holi Michael Pearce ynglŷn â marwolaeth Alfie Sullock o'r Tyllgoed yng Nghaerdydd.
Aed â'r babi i'r ysbyty o gyfeiriad tŷ yn ardal Nelson ar Awst 16. Bu farw ar Awst 20.
Mae Mr Pearce eisoes wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o ymosod ar y babi.
Straeon perthnasol
- 29 Awst 2013
- 21 Awst 2013