Cau rhan o'r A55 wedi i lori fynd ar dân

Cafodd ffordd yr A55 ei chau i gyfeiriad y dwyrain rhwng Ewlo a Dobshill yn Sir y Fflint wedi i lori fynd ar dân.

Cafodd swyddogion tân eu galw o Lannau Dyfrdwy a Bwcle tua 6:30yb ddydd Llun a chafodd y cerbyd ei symud tua 11:00yb.

Roedd 'na dagfeydd traffig rhwng Cyffyrdd 34 a 35 yr A55, ynghyd â ffordd osgoi Caer.

Cafodd traffig ei ddargyfeirio wrth i'r ffordd barhau ynghau.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.