Gêm griced i gofio Tom Maynard
- Cyhoeddwyd
Mae gêm griced arbennig yn cael ei chynnal er cof am Tom Maynard, y cricedwr ifanc fu farw ar ôl cael ei daro gan drên danddaearol.
Yn Sain Ffagan mae'n cael ei chynnal, a bydd y tîm lleol Clwb Criced San Ffagan yn cael ei arwain gan ei dad, Matthew.
Yn chwarae yn ei herbyn bydd llu o gyn chwaraewyr rhyngwladol, yn ogystal â sêr presennol tîm Morgannwg.
Bu farw Tom yn 23 oed ar 18 Mehefin, 2012.
Mae'r holl elw o'r gêm yn cael ei roi i Ymddiriedolaeth Tom Maynard - elusen gafodd ei sefydlu er mwyn rhoi hep llaw i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig sy'n awyddus i gael gyrfa ym myd criced, a chwaraeon eraill.
Dywedodd Matthew Maynard: "Mae'r gefnogaeth i'r ymddiriedolaeth wedi bod yn anhygoel ac mae hynny'n dyst i'r math o ddyn oedd Tom.
"Roedd gennym darged i hel £250,000 o fewn 55 mis ac rydym eisoes ar y ffordd i'w gyrraedd."
Mae'r 55 mis yn cynrychioli rhif Tom yng ngharfan Surrey.
Mae'r gêm ugain pelawd yn dechrau am 2.30pm brynhawn Gwener, gydag un o ffrindiau agos Matthew, cyn fatiwr Lloegr Graeme Fowler yn darparu adloniant cyn y gêm.
Straeon perthnasol
- 26 Chwefror 2013
- 16 Awst 2012
- 18 Mehefin 2012