Moldova dan-21 0-0 Cymru dan-21
- Cyhoeddwyd

Moldova dan-21 0-0 Cymru dan-21
Mae gobeithion tîm pêl-droed dan-21 Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2015 yn deilchion wedi canlyniad siomedig arall yn Moldova ddydd Mawrth.
Daeth y gêm ddi-sgor yn erbyn Moldova yn syth ar ôl colli 1-0 i ieuenctid San Marino nos Wener - canlyniad oedd yn embaras yn erbyn un o dimau gwanaf Ewrop ar bob lefel.
Er i dîm Geraint Williams ennill eu gêm gyntaf yn Grŵp 1 yn erbyn Moldova yn Llanelli yn gynharach eleni, fe gollodd y tîm o 5-1 yn erbyn Y Ffindir ym Mangor cyn siom enfawr y penwythnos.
Gyda phedwar pwynt o bedair gêm mae gobeithion Cymru o gyrraedd y rowndiau terfynol eisoes yn brin iawn gan nad ydyn nhw eto wedi wynebu'r ffefrynnau, Lloegr, o gwbl.
I ychwanegu at drafferthion y tîm fe welodd y capten Emyr Huws, o glwb Manchester City, gerdyn melyn am yr ail gêm yn olynol gan olygu y bydd yn methu'r gêm nesaf yn erbyn Lithwania ym mis Hydref.