Dathlu'r peiriannydd roddodd ddŵr yfed i Lundain
- Cyhoeddwyd

Mae digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn Sir Ddinbych i gofio'r peiriannydd o Gymru a roddodd ddŵr yfed glan i Lundain.
Er nad yw ei enw yn un adnabyddus yng Nghymru, ddydd Gwener bydd bywyd Syr Hugh Myddleton yn cael ei ddathlu yn Rhuthun.
Roedd y peiriannydd, gwleidydd a mentrwr yn gyfrifol am greu cyflenwad dŵr yfed o'r Afon Lea yn Hertfordshire i Clerkenwell yng nghanol dinas Llundain 400 mlynedd yn ôl.
Mae amcan bod gwaith y Cymro wedi arbed miloedd o fywydau yn Llundain, a nawr mae cymdeithas sy'n hybu pwysigrwydd dŵr eisiau dathlu ei gyfraniad i fyd peirianneg.
Cynllun arloesol
Cafodd Syr Hugh Myddleton ei eni 1560 yn Rhuthun, y chweched mab i deulu'r Myddleton.
Drwy gydol ei yrfa, gweithiodd ym meysydd tecstiliau, gemwaith, cloddio a gwleidyddiaeth, ond yn sicr mae ei waith pwysicaf ym myd peirianneg.
Ym mis Medi 1613, cafodd Llundain gyflenwad o ddŵr yfed glân am y tro cyntaf, oherwydd yr afon artiffisial adeiladwyd gan Syr Hugh Myddleton.
Roedd yr afon newydd yn 38 milltir o hyd, ac roedd yr effaith yn un enfawr. Erbyn y flwyddyn nesaf roedd marwolaethau oherwydd afiechydon oedd yn cael eu cludo yn y dŵr wedi haneru.
Cafodd Myddleton ei anrhydeddu gan y Brenin James I am ei waith yn 1622.
Dilyn trywydd
Pedair canrif yn ddiweddarach, mae llywydd newydd cymdeithas Gwarchodwyr y Dŵr (Water Conservators), un o gymdeithasau masnach Dinas Llundain, hefyd yn beiriannydd o Rhuthun.
Bydd y gymdeithas yn cynnal y dathliad o fywyd Syr Hugh ddydd Gwener.
"Mae'n fraint cael dilyn ei drywydd, ond gallaf i ddim rhoi fy hun yn yr un grŵp a Syr Hugh," meddai Ivor Richards, meistr y gymdeithas sydd hefyd yn rhedeg cwmni peirianneg yn Rhuthun.
"Roedd o yn un o'r peirianwyr gorau sydd erioed wedi bod, ac mae'n syndod pam nad ydy o mor enwog â Bazalgette neu Brunel, oherwydd mae o wedi cael yr un effaith ar fywyd ym Mhrydain.
"Roedd yr afon newydd yn teithio ar raddiant o ddim ond pum modfedd bob milltir, rhywbeth yr oedd pobl wedi rhybuddio yn ei erbyn.
"Ond defnyddiodd system o sianeli a chamlesi nad oedd wedi eu gweld ym Mhrydain ers yr oes Rufeinig."
Er bod yr afon bellach wedi ei gwtogi, mae dros ddwy filiwn o bobl Llundain yn dal i ddibynnu arno i gael dŵr yfed glân.
Bydd digwyddiad i ddathlu bywyd a gwaith Syr Hugh Myddleton yn cael ei gynnal yn Eglwys Sant Pedr yn Rhuthun ddydd Gwener.