Achub 200 o swyddi mewn cwmni llenni yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Mae 200 o swyddi wedi eu hachub mewn cwmni llenni a dodrefn yn Sir y Fflint.
Cafodd gweinyddwyr eu galw i gwmni Montgomery Tomlinson, ger Brychdyn, fis diwethaf wedi i'r cwmni fethu a dod o hyd i berchennog newydd.
Cafodd dros 146 o weithwyr storfa, a 384 o weithwyr mewn siopau wybod eu bod am golli eu swyddi ym mis Awst.
Ond mae gobaith y bydd y perchennog newydd yn ail-ddechrau'r busnes, gan gyflogi 200 o weithwyr i ddechrau, a gall hyn gynyddu i 300 yn y dyfodol.
Mae'r BBC yn deall mai cwmni a2e Venture Catalysts Ltd o Fanceinion, a'i lywydd Amin Amiri, sydd wedi prynu Montgomery Tomlinson.
Mae a2e wedi bod yn gyfrifol am adfywio nifer o gwmniau sydd wedi methu yn y gorffennol.
Dywedodd sefydlydd y busnes, Graham Montgomery Tomlinson: "Deg diwrnod yn ôl pan gafodd y gweinyddwyr eu penodi, roedd y gweithwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr yn barod am y gwaethaf.
"Yna daeth Mr Amiri i mewn gyda brwdfrydedd a datrys yr anawsterau ac achub MT yn erbyn pob disgwyliad."
Straeon perthnasol
- 20 Awst 2013