Cynghrair Cymru

Afan Lido 0-3 Bangor

Airbus 6-1 Y Drenewydd

Y Bala 1-3 Y Seintiau Newydd

Caerfyrddin 1-0 Y Rhyl

Port Talbot 3-0 Aberystwyth

Prestatyn 1-2 Cei Connah

Fe wnaeth Airbus ddringo i frig yr uwchgynghrair ar ôl pedair gem, gyda buddugoliaeth ysgubol 6-1 adre yn erbyn Y Drenewydd.

Daeth goliau Airbus gan Steve Jones (22' 53') Michael Roddy, Chris Budrys, Tom Field a Glenn Rule.

Prestatyn oedd ar frig y tabl ddechrau'r diwrnod. Ond colli fu eu hannes, gartef i Cei Connah.

Cortez Belle sgoriodd unig gol y gem wrth i Gaerfyrddin guro'r Rhyl.

Roedd hi'n fwy cyfforddus i Fangor ar eu hymweliad nhw i Lido Afan. Anthony Miley (63') Les Davies 82', Robert Jones (90'+4) gafodd y goliau.

Sgoriodd y Seintiau Newydd dair wrth iddynt guro Y Bala o 3-1.

Phil Baker (18') Conall Murtagh 61'(og) a Mike Wilde 83' yn sgorio i'r ymwelwyr, gyda Conall Murtagh yn rhoi'r bel drwy rwyd ei hun.

Mark Connolly sgoriodd i'r Bala.