Damwain ffordd ym Mhowys: Pedwar yn yr ysbyty

Mae pedwar o bobl mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ôl damwain rhwng pedwar beic modur a dau gar ym Mhowys.

Roedd yr A470 yn ardal Llandinam ar gau am chwe awr o 1pm ddydd Sul ymlaen.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Gorsaf Heddlu'r Drenewydd ar 101.

Aed â dau mewn hofrennydd i Ysbyty Brenhinol Amwythig.

"Dylai unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y ffordd tua'r un amser ac sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth gysylltu â ni," meddai'r Arolygydd Jon Tatton o Heddlu Dyfed-Powys.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.