Caerdydd 0-0 Everton

Caerdydd v.Everton Image copyright Getty Images
Image caption Roedd amddiffyn Caerdydd yn gampus unwaith eto

Caerdydd 0-0 Everton

Wedi gorfoledd y fuddugoliaeth yn erbyn Manchester City yr wythnos ddiwethaf, roedd y gêm yma'n dipyn o brawf cymeriad i dîm Malky Mackay.

Yn y funud gyntaf roedd y prawf yn ymddangos yn ormod wrth i Matthew Connolly glirio cynnig gan yr ymwelwyr wedi dim ond 29 eiliad o chwarae.

Fe gafodd Caerdydd gyfnod da wedi hynny, ond wrth i'r hanner cyntaf ddirwyn i ben, Everton oedd yn pwyso ac yn rheoli, ac roedd angen arbediad rhyfeddol gan David Marshall i'w chadw hi'n gyfartal ar yr egwyl.

Ond yn yr ail hanner fe ddecreuodd Caerdydd yn well, a'r tro yma Marouane Fellaini fu'n rhaid clirio cynnig gan y tîm cartref wedi 33 eiliad.

Roedd hi'n gêm agored gyda'r ddau dîm yn creu cyfleoedd. Daeth un o'r goreuon i Craig Bellamy ar yr awr, ond amddiffyn Caerdydd oedd y ser unwaith yn rhagor.

Daeth arbediad arall gwych gan Marshall, ac fe brofodd Andrew Taylor a Ben Turner eu gwerth wrth glirio cynigion gan Ross Barkley a Kevin Mirallas.