Heddlu yn barod am gêm ddarbi

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun, Mae Wrecsam wedi cael dechrau sigledig i'r tymor newydd.

Fe fydd presenoldeb yr heddlu yn amlwg ddydd Sadwrn pan fydd Wrecsam yn chwarae Caer yn y gêm ddarbi gyntaf rhyngddynt am nifer o flynyddoedd.

Rhaid oedd prynu tocyn ymlaen llaw ar gyfer y gêm, ac mae disgwyl i gefnogwyr Caer deithio ar fysiau swyddogol yn unig.

Yn ogystal, fe fydd rhan o Ffordd yr Wyddgrug i ganol tref Wrecsam ar gau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Dave Owens: "Rydym wedi cynllunio ar gyfer y gêm gyda'r ddau glwb i sicrhau y bydd pawb yn ddiogel ac yn mwynhau'r digwyddiad.

"Mae adroddiadau wedi bod mai'r heddlu orchmynnodd y trefniadau teithio.

"Nid yw hyn yn wir. Fe wnaeth y clybiau hefyd gytuno ar y mesurau hyn gan eu bod yn gwerthfawrogi pwysigrwydd diogelwch y cefnogwyr a chymunedau lleol.

"Rwy'n eu canmol am eu safbwynt synhwyrol"

Mae Wrecsam wedi cael dechrau sigledig i'r tymor newydd.

Ar ôl pum gêm, pum pwynt sydd gan glwb y Cae Ras ar ôl colli i Lincoln o ddwy gôl ar Ŵyl y Banc.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol