Corff yn Llyn Syfydrin: Cyhoeddi enw

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, jeff thomas
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 4pm ddydd Llun

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw yn Llyn Syfydrin ger Ponterwyd yng Ngheredigion.

Roedd Benjamin Matthew Morgan, yn 26 oed ac yn dod o Gapel Bach, Penbontrhydybeddau, ger Aberystwyth.

Roedd y gwasanaethau brys a thîm deifio arbenigol wedi bod yn chwilio cyn dod o hyd i'w gorff.

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio ddydd Mercher, ond nid oes amgylchiadau amheus ynghylch ei farwolaeth.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol