Chwilio am ddyn â gwn Taser

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Roger Luke
disgrifiad o’r llunDechreuodd y chwilio nos Fawrth yn dilyn adroddiad bod dyn â gwn Taser yn Nheras y Rheilffordd

Mae heddlu yn chwilio am ddyn y credir ei fod yn meddu ar wn Taser ym Maesteg, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Dechreuodd y chwilio nos Fawrth yn dilyn adroddiad bod dyn â gwn Taser yn Nheras y Rheilffordd yn y dref.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn parhau i chwilio amdano.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol