Heddlu arfog yn arestio chwech yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd heddlu arfog eu galw ar ôl adroddiadau bod arf yn rhan o ffrae rhwng pobol mewn dau gar yng Nghasnewydd.
Roedd y dynion yn y cerbydau - sef dau Audi - wedi bod yn ymladd cyn i'r ddau gar fwrw i mewn i gar arall, dywedodd Heddlu Gwent.
Cafodd un car ei stopio ar yr M4 a'r llall yn y ddinas nos Lun.
Cafodd chwech o ddynion eu harestio a daethpwyd o hyd i'r hyn y credir sy'n wn aer.
Roedd dau ddyn mewn Audi llwyd, a gafodd ei stopio gan yr heddlu ar gyffordd 22 o'r M4, a chawsant eu harestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus, meddiant o arf bygythiol ac ymosod.
Darganfuwyd yr Audi gwyn yn ardal Highbank y ddinas, a chafodd pedwar dyn eu harestio.
Ni chafodd gyrrwr y car Fiat, a oedd yn rhan o'r ddamwain yn Stryd y Banc, ei anafu.
Mae Heddlu Gwent wedi apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau i gysylltu â nhw ar 101.