Cynhyrchu trydan wrth atal llifogydd?

Fe allai cynllun atal llifogydd yn sir Ddinbych hefyd fod o gymorth i gynhyrchu trydan.
Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £1.8m yn cael ei wario ar gynllun atal llifogydd yn ardal Corwen.
Nawr mae asiantaeth Cadwyn Clwyd yn dweud y gallai cynllun cynhyrchu trydan ddod ag incwm blynyddol o £40,000 i'r gymuned leol.
Mae Cyngor sir Ddinbych ac Ystâd Rhug yn gysylltiedig gyda'r cynllun hydro-electrig.
Potensial
Yn ôl Silas Jones, swyddog ynni gyda Cadwyn Clwyd, mae astudiaeth eisoes wedi ei wneud o botensial Nant y Pigyn.
Mae'r nant 152 metr (500 troedfedd) uwchben y dref, a byddai'r llif o 45 litr bob eiliad yn ddigon i yrru generadur 55 kilowat.
Credir y byddai hynny yn ddigon i gyflenwi 30 o gartrefi.
Dywedodd Mr Jones: "Rydym wedi bod yn cydweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych, mae gan y sir brosiect ar y gweill i rwystro llifogydd yn y dref.
"Maen nhw wedi ein hannog i ddatblygu cynllun hydro fyddai'n cyd-fynd gyda chynllun atal llifogydd."
Nod y cynllun fyddai defnyddio dŵr o Nant Cwrddu a Nant y Pigyn i yrru genadur.
Byddai cynllun o'r fath yn gymorth wrth atal llifogydd o Nant Cwrddu - ceuffos sy'n llifo o dan westy Owain Glyndŵr yng Nghorwen.
Byddai angen codi £300,000 ar gyfer y cynllun hydro.
Dywedodd y cynghorydd sir lleol Huw Jones fod y cynllun atal llifogydd yn ei gwneud yn bosib i ddatblygu cynllun cynhyrchu trydan.
"Pe bai pobl leol a sefydliadau lleol yn dod at ei gilydd fe allai hyn fod yn hwb i ddyfodol Corwen."
Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ym mhafiliwn chwaraeon Corwen ar Fedi 12 am 6.45pm er mwyn ceisio dod o hyd i fuddsoddwyr yn y prosiect.