Gareth i arwain y Dreigiau

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Chwaraeodd 21 o weithiau i Gymru, gan arwain y tîm mewn pum gêm

Mae Dreigiau Casnewydd Gwent a Chlwb Rygbi Casnewydd wedi cyhoeddi mai Gareth Davies yw eu prif weithredwr newydd.

Dywedodd datganiad fod penodiad Mr Davies, ynghyd â dyfodiad Lyn a Kingsley Jones fel hyfforddwyr, yn "tanlinellu'r uchelgais cynyddol" yn Rodney Parade.

Bydd Mr Davies yn cymryd yr awenau ym mis Medi.