AS Ceredigion yn condemnio peintio wal slogan Tryweryn

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Arall
disgrifiad o’r llunMae'r wal ar yr heol rhwng Aberystwyth ac Aberteifi

Mae AS Ceredigion Mark Williams wedi condemnio fandaliaid sy' wedi peintio wal Cofiwch Dryweryn.

Roedd y peintio nos Iau ar yr heol yn Llanrhystud rhwng Aberystwyth ac Aberteifi.

"Mae'n amlwg nad ydyn nhw'n deall o gwbl arwyddocâd y neges hanesyddol ar y wal na'r teimladau cryf ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd yn Nhryweryn," meddai.

Yn 2010 roedd graffiti'n gorchuddio'r slogan sy'n cyfeirio at foddi pentref Capel Celyn 40 mlynedd yn ôl er mwyn darparu dŵr i ddinas Lerpwl.

Ond dros nos ailbaentiwyd y slogan gwreiddiol.

Straeon perthnasol