Angladd milwr y Bannau yn cael ei gynnal

James Dunsby Image copyright MOD
Image caption Roedd James Dunsby yn aelod o Fyddin Diriogaethol Wiltshire

Mae angladd milwr gafodd ei daro'n wael wrth ymarfer wedi ei gynnal.

Bu farw dau filwr ar Fannau Brycheiniog ym mis Gorffennaf ond cafodd James Dunsby o Fyddin Diriogaethol Wiltshire ei gludo i'r ysbyty.

Bythefnos wedyn bu farw'n 31 oed.

Cafodd yr angladd ei chynnal yn Trowbridge gydag anrhydeddau milwrol llawn.

'Bonheddwr'

Dywedodd cyfaill oedd gydag o'n gwasanaethu yn Afghanistan ei fod yn "ysgolhaig" ac yn "fonheddwr."

Roedd y tri ar daith 40 milltir a'r tymheredd wedi codi i 29.5C neu 85F pan aethon nhw'n sâl.

Y ddau arall fu farw oedd Isgorporal Craig Roberts o Fae Penrhyn, Conwy, a Edward Maher, 31 oed.

Mae yna ymchwiliadau wedi dechrau.

Dywedodd cydfilwr arall amdano: "Fe gyffyrddodd (James) gymaint o bobl a gwireddu cymaint nes ei fod yn gadael y lle hwn yn fuddugoliaethus."