Di-sgor yn y gêm rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon

Joe Allen Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Doedd hi ddim yn gêm gofiadwy i'r gwylwyr

Di-sgor oedd hi yn y gêm gyfeillgar rhwng tîm pêl-droed Cymru a Gweriniaeth Iwerddon yn stadiwm Dinas Caerdydd.

Doedd hi ddim yn gêm gyffrous i'r gynulleidfa nac yn un gofiadwy.

Y chwaraewr Shane Long gafodd y cyfle gorau i Weriniaeth Iwerddon yn ystod y gêm dwywaith ac er i Johnny Williams a Craig Bellamy geisio sgorio dros Gymru ofer oedd eu hymdrechion.

Er bod Gareth Bale wedi ymuno yn sesiwn hyfforddi Cymru ddydd Llun, gwylio o'r fainc oedd o yn dilyn anaf i'w droed.

Fe ddaeth Gweriniaeth Iwerddon yn agos at sgorio gyda deg munud i fynd tan y chwiban olaf gyda Shane Long yn dod yn agos at rwydo.

Cafodd honno ei hatal a llwyddodd capten Cymru Ashley Williams i atal cyfle arall gan Paddy Madden.