Y Cymry iau'n gobeithio am driphwynt

Geraint Williams Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae'r rheolwr Geraint Williams yn fyddiog o guro'r Ffindir dan-21 ym Mangor

Bydd tîm pêl-droed dan-21 Cymru'n gobeithio ennill eu hail gêm yn rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth Ewrop wrth iddyn nhw wynebu'r Ffindir brynhawn Mercher.

Fe fydd y gêm yn cael ei chynnal ym Mangor - y tro cyntaf i Stadiwm Nantporth gynnal gêm ryngwladol ar y lefel yma.

Mae'r tîm dan reolaeth Geraint Williams wedi cael rhediad da yn ddiweddar gan guro Gwlad yr Iâ o 3-0 mewn gêm gyfeillgar cyn ennill eu gêm agoriadol yn Grŵp 1 yn erbyn Moldova o 1-0.

Gobaith Cymru yw cipio pwyntiau llawn yn erbyn timau llai y grŵp - San Marino, Moldova, Y Ffindir a Lithwania - cyn iddyn nhw herio Lloegr ddwywaith er mwyn ceisio cyrraedd y rowndiau terfynol.

Tasg anodd

Ond mae'r rheolwr yn ymwybodol na fydd hynny'n dasg hawdd, a dywedodd Geraint Williams:

"Pan ddaeth yr enwau o'r het roedd pawb yn siarad am y gemau yn erbyn Lloegr, ond mae'n rhaid i ni ofalu ein bod yn gwneud ein gwaith yna iawn cyn hynny.

"Roedd curo Moldofa yn Llanelli yn bwysig, ond mae angen i ni gael buddugoliaeth yn erbyn y Ffindir cyn y ddwy gêm oddi cartref (yn San Marino a Moldofa) ym mis Medi.

"Gan fod y Ffindir mor agos atom ar y rhestr detholion, mae hon yn gêm y mae angen i ni ei hennill."

Cafodd yr ymwelwyr gêm gyfartal i agor y grŵp yn erbyn Lithwania, ac mae Williams yn disgwyl tasg anodd gan fod y tymor pêl-droed yn y Ffindir wedi dechrau ers tro.

Ychwanegodd: "Roedden nhw'n anlwcus i beidio curo Lithwania ac maen nhw hanner ffordd drwy eu tymor tra bod ein hogiau ni ar ddechrau.

"Fe fydd yn brawf anodd, ond yn un rwy'n credu y gallwn oresgyn."

Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Nantporth ym Mangor am 4:00pm ddydd Mercher, Awst 14.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.