Beiciwr Pont-y-pŵl: Pedwar gafodd eu harestio ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r pedwar gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio beiciwr 63 oed wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tan Hydref 2.
Bu farw John Reeder o Bont-y-pŵl yn Stryd George, Pontnewynydd, Torfaen, fore Mercher.
Aed ag ef i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw oherwydd anafiadau difrifol i'w ben.
Cafodd tri dyn 18, 19 a 23 oed ac un fenyw 19 oed o ardal Pont-y-pŵl eu harestio.
Mae ditectifs yn gofyn i unrhyw un a welodd Mr Reeder ar gefn ei feic i gysylltu â nhw ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol