Tai cydweithredol yn derbyn arian

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Bydd yr ardaloedd peilot yn derbyn bron i £2,000 gan Lywodraeth Cymru

Mi fydd cynllun i godi tai cydweithredol yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chasnewydd yn derbyn bron £2,000 gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl y Gweinidog Tai, Carl Sargeant, mae 'na botensial i ddarparu tuag 89 o dai yn y tair ardal beilot yma.

O dan gynlluniau tai cydweithredol mae modd i bobl ddod at ei gilydd a phrynu tir er mwyn codi tai arno.

Fe all y bobl hynny wedyn brynu cyfranddaliadau yn y tai newydd.

Mae Llywodraeth Cymru, meddai'r gweinidog, wedi ymrwymo i ddatblygu ffyrdd newydd o ddarparu tai ac mae'r arian yn gam positif ymlaen.

'Yn fforddiadwy'

"Mae'r rhai sydd wedi dangos diddordeb mewn tai cydweithredol yn y tair ardal beilot yn dweud eu bod eisiau gwneud am fod y tai yn fforddiadwy a'u bod eisiau datblygu a byw mewn cymunedau newydd," meddai Mr Sargeant.

Dywedodd Dave Palmer o Ganolfan Cydweithredol Cymru: "Mae'r cyhoeddiad yn un rydyn ni yn ei groesawu ac yn dod ar adeg bwysig pan rydyn ni wrthi yn datblygu tai cydweithredol yng Nghymru.

"Bydd yr arian yn ein cynorthwyo i adeiladu cartrefi newydd ac yn dangos sut mae tai cydweithredol yn medru cynnig opsiwn fforddiadwy yma yng Nghymru."

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol