Prif Lenor yn sôn am apêl llên micro

Jane Jones Owen a'r Archdderwydd Christine
Image caption Dywed Jane Jones Owen ei bod yn hoffi ysgrifennu llen micro am ei fod yn "gynnil"

Fel 'tusw o flodau' y disgrifiodd enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2013 y casgliad o straeon micro a sicrhaodd y wobr iddi.

A'r blodau hynny wedi eu clymu â rhuban y cwlwm a osodwyd yn thema i'r gystadleuaeth.

"Bwnsh o straeon faswn i'n eu galw. Maen nhw fatha bwnsh o flodau. Mae gennych chi rai blodau mawr , rhai yn llai ac mae cwlwm fel rhuban yn gwneud bwnsh o straeon dwi'n gobeithio sydd ddigon difyr i'w mwynhau," meddai yn ystod sgwrs gyda'r wasg yn dilyn seremoni ei hurddo a'r Fedal Ryddiaith ar lwyfan y pafiliwn.

A hithau wedi cystadlu o'r blaen ar gystadlaethau straeon micro, dywedodd Jane Jones Owen o'r Wyddgrug mai dyma'r tro cyntaf iddi gystadlu am y Fedal Ryddiaith.

"Mi benderfynais i wneud oherwydd nad oedd cystadleuaeth straeon micro yn Ninbych eleni felly dyma benderfynu mynd am y fedal," meddai.

'Diolch'

O feirniaid cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn y gorffennol y rhoddodd ei diolch pennaf - rheiny a ddyfarnodd y Fedal i Annes Glynn am gasgliad o straeon micro yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd.

"Mi rydw i eisiau diolch iddyn nhw," meddai Jane. "Cyn hynny roeddwn i'n meddwl bod yn rhaid i bob stori fod tua 3,000 o eiriau. Ond pan welais i'r gyfrol honno dyma'r wybyddiaeth yn dod mai dyna ydw innau eisiau'i wneud."

Wrth sôn am apêl y cyfrwng, dywedodd, "Dwi'n hoffi llên micro. Mae'n gynnil, yn gryno ac efallai'n amwys, ac efallai ychydig yn heriol."

Ychwanegodd: "Mae o'n debyg iawn i englyn neu delyneg o gymharu â phryddest neu gywydd ac mae yr un mor ddilys fel ffurf lenyddol i mi."

Dywedodd bod rythm, mydr a phatrwm brawddeg yn allweddol iddyn nhw.

'Cymryd oesoedd'

Ond mae ffurf mor gryno a chywrain yn mynnu llawer o gaboli.

"Maent yn cymryd oesoedd ac oesoedd i'w gwneud. Er eu bod nhw'n fyr, fatha englyn neu delyneg mae'n edrych yn rhwydd ond ella mod i wedi adolygu rhai ugeiniau o weithiau. Dwi wedi bod wrthi am oriau yn rhoi y polish iawn arnyn nhw," meddai.

Llongyfarchodd Bwyllgor Llên Dinbych hefyd am gael testun digon eang i alluogi cystadleuydd "i sgwennu pob math o bethau".

Mae nifer o'r straeon yn ei chasgliad yn gwbl amserol.

"Mae rhai yn ymateb i newyddion, mae un yn ymateb i raglen deledu welais i ychydig wythnosau cyn y dyddiad cau hyd yn oed."

Mae eraill yn ymwneud â safle merched o fewn cymdeithas.

"Mae yma nifer o straeon yn ymwneud â phrofiadau merched ac yr ydw i yn mawrygu cymwynas merched sy'n mynnu chwarae i ferched a mynnu nad ydynt yn cael eu cam-drin."

Ond pwysleisiodd nad trwy bregethu y mae'n gwneud hynny.

"Dwi ddim yn meddwl mod i'n pregethu achos rhaid i'r llenor fod yn gynnil ac yn awgrymog a heriol. Nid pregethu ydi ei le ond cyfleu profiad unigol," meddai.

Dywedodd bod syniadau ar gyfer ei straeon yn dod weithiau ar yr adegau mwyaf annisgwyl.

"Mae'r llinellau 'ma'n dod ar yr amserau mwyaf anghyfleus. Weithia yn y pwll nofio a dim papur gennych neu pan ydach chi'n garddio a'ch dwylo yn bridd neu ganol nos - a waeth i chi na meddwl y gwnewch chi gofio yn y bore achos mi fydd wedi mynd os na wnewch eich sgwennu yn y fan a'r lle," meddai.

Ac yn awr ei bod yn brif lenor, beth nesaf?

"Mae gen i ryw fanion bethau [ar y gweill] ond yr ydw i'n dibynnu ar yr Eisteddfod i roi thema ," meddai.

A gallwn fentro ei bod hi'n barod wedi bod yn pori yn rhestr testunau Sir Gâr y flwyddyn nesaf.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.