Gareth Davies i fod yn bennaeth Dreigiau Casnewydd Gwent?

Gareth Davies Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Chwaraeodd Gareth Davies 21 o weithiau dros Gymru, gan arwain y tîm mewn 5 gêm

Mae'r BBC yn deall fod cyn gapten tîm rygbi Cymru, Gareth Davies yn ystyried cynnig gan glwb rygbi Dreigiau Casnewydd Gwent i fod yn brif weithredwr newydd y rhanbarth.

Deallir fod y cyn faswr, a chwaraeodd 21 o weithiau dros Gymru, a dros y Llewod yn 1980, wedi cael cynnig y swydd yn Rodney Parade.

Os yw Gareth Davies, sy'n 57 oed yn derbyn y cynnig, byddai'n ymuno â Lyn a Kingsley Jones sydd ar dîm hyfforddi'r Dreigiau.

Byddai'n cymryd lle'r cyn brif weithredwr Chris Bown, a adawodd y swydd ym mis Mehehfin.

Straeon perthnasol