Grant gwefan: Golwg 360 yn ymgeisio
- Cyhoeddwyd

Mae Golwg 360 wedi cadarnhau bod y cwmni wedi mynegi diddordeb mewn ymgeisio am gefnogaeth ariannol i barhau i ddarparu gwefan newyddion Gymraeg am dair blynedd arall.
Ers ei lansio ym Mai 2009, mae Golwg 360 wedi derbyn £200,000 y flwyddyn o arian Llywodraeth Cymru i ddarparu'r gwasanaeth.
Mae'r arian yn cael ei weinyddu gan Gyngor Llyfrau Cymru, ac mae'r trefniant presennol yn parhau tan fis Mawrth 2014.
Mae'r Cyngor Llyfrau ar hyn o bryd yn gwahodd cwmnïau a mentrau sydd â diddordeb mewn darparu gwefan newyddion Gymraeg yn ystod y cyfnod 2014-17 i fynegi diddordeb, a 31 Gorffennaf yw'r dyddiad cau.
Dywedodd prif weithredwr a chyfarwyddwr Golwg Newydd (Golwg360), Owain Schiavone fod y cwmni "yn teimlo ein bod yn cynnal gwasanaeth da ar hyn o bryd ac yn hyderus y gallwn ni barhau i gynnig gwasanaeth da a dal i ddatblygu yn y dyfodol."
Ychwanegodd eu bod yn croesawu'r broses dendro ac yn ei weld fel "cyfle i adolygu beth y'n ni yn gneud a beth y'n ni am geisio'i gyflawni yn y dyfodol."
Yn ôl canllawiau'r Cyngor Llyfrau, y camau nesaf yw i ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau erbyn canol Medi a bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ym mis Hydref.
Dydy hi ddim yn hysbys ar hyn o bryd a oes yna unrhyw gwmnïau neu fentrau eraill yn ymgeisio.
Straeon perthnasol
- 24 Medi 2011
- 28 Mawrth 2011
- 15 Mai 2009