Tân wedi diffodd ar draeth poblogaidd

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y dynion tân ei galw i draeth Poppit bore Sul

Mae'r gwasanaethau tân wedi bod yn taclo tân gwair ger traeth poblogaidd yn Sir Benfro.

Cafodd tri o griwiau ei hanfon wedi deg bore Sul i ddelio gyda'r fflamau wrth ymyl traeth Poppit yn Llandudoch ger Aberteifi.

Ond mae'r tân bellach wedi diffodd. Roedd wedi lledaenu ar draws saith acer a hanner o dir ar draws y traeth a thwyni.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol