Enwi dyn fu farw ger cronfa ddŵr

Cronfa ddŵr Cantref Image copyright Gareth James
Image caption Cafodd corff Daniel Colin Clemo ei ddarganfod ger cronfa ddŵr Cantref ym Mannau Brycheiniog

Mae heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw'r dyn a fu farw ger cronfa ddŵr Cantref ddydd Sul.

Cafodd corff Daniel Colin Clemo, oedd yn 24 oed ac o ardal Caerffili ei ddarganfod wedi i'r gwasanaethau brys chwilio amdano dros y penwythnos.

Cafodd yr awdurdodau eu galw i'r gronfa ddŵr ychydig cyn 3.00yh brynhawn Sul, a chafodd rhan o ffordd yr A470 ei chau rhwng Merthyr Tudful a chyffordd yr A4059 i'r gogledd o'r safle.

Yn dilyn archwiliad o'r ardal cafodd corff ei ddarganfod.

Pontsticill

Bu farw dyn arall yng nghronfa ddŵr Pontsticill dros y penwythnos hefyd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i ddyn 52 oed fethu a dychwelyd ar ôl bod i nofio yn y gronfa ddŵr ddydd Sadwrn.

Cafodd corff dyn ei ddarganfod wedi hanner awr o chwilio.

Nid yw'r heddlu wedi cadarnhau ei enw.

Straeon perthnasol